Cyngor Cymuned Trefriw
©Cyngor Cymuned Trefriw 2014
Cyfarfod y Cyngor nesaf
Hyderf 2 2018 am 7:00pm
@ Neuadd Bentref Trefriw
Mae croeso i’r cyhoedd a’r wasg ddod i’r cyfarfod yma. Serch hynny, ni fydd modd iddyn nhw fod yn bresennol pan fydd y Cyngor yn trafod materion cyfrinachol.
Sgip Nesaf
2018 / 2019
Bro Geirionydd 08/03/2018
Bro Gower 12/04/2018
Bro Gerionydd 10/05/2018
Nant BH 07/06/2018
Bro Gower 14/06/2018
Bro Geirionydd 12/07/2018
Bro Gower 22/08/2018
Bro Geirionydd 20/09/2018
Bro Gower 01/11/2018
Bro Geirionydd 06/12/2018
Bro Gower 03/01/2019
Bro Geirionydd 14/02/2019
Bro Gower 14/03/2019
Mae'r sgip ar gyfer gwastraff cartref yn unig
Maes Hamdden Trefriw
Prynodd y Trefriw Improvement Company Ltd. y Maes Hamdden gan Iarll Ancaster ym 1897 am y swm sylweddol, bryd hynny, o £220.
Roedd y cwmni wedi gosod y tir ar brydles ers 1887 aceisoes wedi cyrtiau tenis,
lawnt croce a llain fowlio yno.
Ym 1911, trosglwyddwyd y berchnogaeth i Gyngor Gwledig Geirionnydd ac yna trwy Gyngor Gwledig Nant Conwy a Chyngor Plwyf Trefriw i Gyngor Cymuned Trefriw, ac yn ei ofal yn parhau hyd heddiw.
Mae’r hen giât haearn bellach yn arddangos ail blac coffaol - coffâd dwyieithog o’r ffaith fod Maes Hamdden Trefriw bellach wedi’i ddiogelu rhag ei ddatblygu am byth. Mae’r cae wedi’i gofrestru gan y sefydliad elusennol ‘Fields in Trust’ fel Maes y Frenhines Elisabeth II i anrhydeddu Jiwbilî Ddiemwnt Ei Mawrhydi'r Frenhines.
Bydd yr enw ‘Maes Hamdden Trefriw’ yn parhau, fel ag y cofnodir ar y bwa o waith haearn uwchben y giât.
Yn ogystal â diogelu statws y cae fel maes hamdden, mae cael ei gofrestru’n ehangu’r gorwelion o ran cyfleoedd i geisio am grantiau gwella sydd ddim ond ar gael i feysydd y Frenhines. Mae’r Cyngor Cymuned yn chwilio i mewn i ffyrdd o fanteisio ar y cyfle hwn i wella’r cae er budd holl drigolion Trefriw a Llanrhychwyn. Yn anffodus, mae’r oedi wrth geisio cael y cae i gyflwr da wedi’r gwaith ar ôl y llifogydd yn atal y datblygiad.