Rhoddwyd y tir i’r pentref ar gyfer y Maes Chwarae Plant gan Henry Higgins, a fu’n byw yn Roualeyn yn ystod cyfnod cynnar yr 20fed ganrif. Mae Mr. Higgins wedi’i gladdu ym mynwent eglwys y Santes Fair ac fe gofir amdano am ei garedigrwydd i blant.
Ym 1975, gan nad oedd y Cyngor Cymuned yn gallu fforddio ailosod offer anniogel ac wedi’i ddyddio, penderfynodd cyfarfod cyhoeddus drosglwyddo perchnogaeth y cae i’r Cyngor Bwrdeistref. Mae modd gweld copi o gofnodion y cyfarfod yma. Cofrestrwyd Ymddiriedolaeth Maes Chwarae Plant Trefriw, gyda bwrdd ymddiriedolwyr lleol yn rheoli, gyda’r Comisiwn Elusennau ac mae’n parhau i reoli’r parc.
Ym mis Chwefror 2009, cychwynnodd y gwaith ar Gynllun Atal Llifogydd Dyffryn Conwy ac fe holltwyd y parc yn ddwy gan yr amddiffynfeydd atal llifogydd. Wedi cwblhau’r gwaith hwn, gan fod maint y cae wedi’i leihau, gosodwyd rhywfaint o’r offer chwarae ar ran o Faes Hamdden Trefriw er mwyn i’r plant gael mwy o le i chwarae. Fel canlyniad, mae’r hen giât a oedd yn arfer arwain at y Maes Hamdden bellach yn agor allan ar y Parc Chwarae.
Yn 2011, yn ail-agoriad y Parc Chwarae wedi’r gwaith atal llifogydd, dadorchuddiwyd plac coffaol i ddathlu rhodd wreiddiol Henry Higgins. Gosodwyd y plac ar un o byst giât y fynedfa flaenorol i Faes Hamdden Trefriw.