Maes Hamdden

Prynodd y Trefriw Improvement Company Ltd. y Maes Hamdden gan Iarll Ancaster ym 1897 am y swm sylweddol, bryd hynny, o £220.

Roedd y cwmni wedi gosod y tir ar brydles ers 1887 aceisoes wedi cyrtiau tenis, awnt croce a llain fowlio yno.

Ym 1911, trosglwyddwyd y berchnogaeth i Gyngor Gwledig Geirionnydd ac yna trwy Gyngor Gwledig Nant Conwy a Chyngor Plwyf Trefriw i Gyngor Cymuned Trefriw, ac yn ei ofal yn parhau hyd heddiw.

Mae’r hen giât haearn bellach yn arddangos ail blac coffaol – coffâd dwyieithog o’r ffaith fod Maes Hamdden Trefriw bellach wedi’i ddiogelu rhag ei ddatblygu am byth. Mae’r cae wedi’i gofrestru gan y sefydliad elusennol ‘Fields in Trust’ fel Maes y Frenhines Elisabeth II i anrhydeddu Jiwbilî Ddiemwnt Ei Mawrhydi’r Frenhines.

Bydd yr enw ‘Maes Hamdden Trefriw’ yn parhau, fel ag y cofnodir ar y bwa o waith haearn uwchben y giât.

Yn ogystal â diogelu statws y cae fel maes hamdden, mae cael ei gofrestru’n ehangu’r gorwelion o ran cyfleoedd i geisio am grantiau gwella sydd ddim ond ar gael i feysydd y Frenhines. Mae’r Cyngor Cymuned yn chwilio i mewn i ffyrdd o fanteisio ar y cyfle hwn i wella’r cae er budd holl drigolion Trefriw a Llanrhychwyn. Yn anffodus, mae’r oedi wrth geisio cael y cae i gyflwr da wedi’r gwaith ar ôl y llifogydd yn atal y datblygiad.